28 Mae'r ARGLWYDD yn caru beth sy'n gyfiawn,a dydy e byth yn siomi'r rhai sy'n ffyddlon iddo.Maen nhw'n saff bob amser!Ond bydd plant y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd.
29 Bydd y rhai sy'n byw yn iawn yn meddiannu'r tir,ac yn aros yno am byth.
30 Mae pobl dduwiol yn dweud beth sy'n ddoeth,ac yn hybu cyfiawnder.
31 Cyfraith Duw sy'n rheoli eu ffordd o feddwl,a dŷn nhw byth yn llithro.
32 Mae'r rhai drwg yn disgwyl am gyflei ymosod ar y sawl sy'n byw'n iawn,yn y gobaith o'i ladd;
33 ond fydd yr ARGLWYDD ddim gadael iddo syrthio i'w dwylo;fydd e ddim yn cael ei gondemnio yn y llys.
34 Disgwyl am yr ARGLWYDD!Dos y ffordd mae e'n dweuda bydd e'n rhoi'r gallu i ti feddiannu'r tir.Byddi'n gweld y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd.