30 Mae pobl dduwiol yn dweud beth sy'n ddoeth,ac yn hybu cyfiawnder.
31 Cyfraith Duw sy'n rheoli eu ffordd o feddwl,a dŷn nhw byth yn llithro.
32 Mae'r rhai drwg yn disgwyl am gyflei ymosod ar y sawl sy'n byw'n iawn,yn y gobaith o'i ladd;
33 ond fydd yr ARGLWYDD ddim gadael iddo syrthio i'w dwylo;fydd e ddim yn cael ei gondemnio yn y llys.
34 Disgwyl am yr ARGLWYDD!Dos y ffordd mae e'n dweuda bydd e'n rhoi'r gallu i ti feddiannu'r tir.Byddi'n gweld y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd.
35 Dw i wedi gweld pobl ddrwg, creulon,yn llwyddo ac yn lledu fel coeden ddeiliog yn ei chynefin.
36 Ond wedyn wrth basio heibio, sylwais eu bod wedi diflannu!Ro'n i'n edrych, ond doedd dim sôn amdanyn nhw!