33 ond fydd yr ARGLWYDD ddim gadael iddo syrthio i'w dwylo;fydd e ddim yn cael ei gondemnio yn y llys.
34 Disgwyl am yr ARGLWYDD!Dos y ffordd mae e'n dweuda bydd e'n rhoi'r gallu i ti feddiannu'r tir.Byddi'n gweld y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd.
35 Dw i wedi gweld pobl ddrwg, creulon,yn llwyddo ac yn lledu fel coeden ddeiliog yn ei chynefin.
36 Ond wedyn wrth basio heibio, sylwais eu bod wedi diflannu!Ro'n i'n edrych, ond doedd dim sôn amdanyn nhw!
37 Edrych ar y rhai gonest! Noda'r rhai sy'n byw'n gywir!Mae dyfodol i'r rhai sy'n hybu heddwch.
38 Ond bydd y rhai sy'n troseddu yn cael eu dinistrio'n llwyr!Does dim dyfodol i'r rhai drwg!
39 Mae'r ARGLWYDD yn achub y rhai sy'n byw'n gywir,ac yn eu hamddiffyn pan maen nhw mewn trafferthion.