4 Ceisia ffafr yr ARGLWYDD bob amser,a bydd e'n rhoi i ti bopeth wyt ti eisiau.
5 Rho dy hun yn nwylo'r ARGLWYDDa'i drystio fe; bydd e'n gweithredu ar dy ran di.
6 Bydd e'n achub dy gam di o flaen pawb!Bydd y ffaith fod dy achos yn gyfiawnmor amlwg a'r haul ganol dydd.
7 Bydd yn amyneddgar wrth ddisgwyl am yr ARGLWYDD.Paid digio pan wyt ti'n gweld pobl eraill yn llwyddowrth ddilyn eu cynlluniau cyfrwys.
8 Paid gwylltio am y peth, na cholli dy dymer.Paid digio. Drwg ddaw iddyn nhw'n y diwedd!
9 Bydd pobl ddrwg yn cael eu taflu allan,ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDDyn meddiannu'r tir!
10 Fydd y rhai drwg ddim i'w gweld yn unman mewn ychydig!Byddi'n edrych amdanyn nhw, ond byddan nhw wedi mynd.