3 Dw i'n methu bwyta, ac yn crïo nos a dydd,wrth iddyn nhw wawdio'n ddiddiwedd,“Ble mae dy Dduw di, felly?”
4 Wrth gofio hyn i gyd dw i'n teimlo mor drist!Cofio mynd gyda'r dyrfa i dŷ Dduw;gweiddi a moli'n llawen gyda phawb arallwrth ddathlu'r Ŵyl!
5 F'enaid, pam rwyt ti'n teimlo mor isel?Pam wyt ti mor anniddig?Rho dy obaith yn Nuw!Bydda i'n moli Duw etoam iddo ymyrryd i'm hachub i!
6 O fy Nuw, dw i'n teimlo mor isel.Felly dw i am feddwl amdanat titra dw i'n ffoadur yma.Yma mae'r Iorddonen yn tardduo fryniau Hermon a Mynydd Misar;
7 lle mae sŵn dwfn y rhaeadrauyn galw ar ei gilydd.Mae fel petai tonnau mawr dy fôr yn llifo trosta i!
8 Ond dw i'n profi gofal ffyddlon yr ARGLWYDD drwy'r dydd,ac yn y nos dw i'n canu cân o fawl iddoac yn gweddïo ar y Duw byw.
9 Dw i'n gofyn i Dduw, fy nghraig uchel,“Pam wyt ti'n cymryd dim sylw ohono i?Pam mae'n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist,am fod y gelynion yn fy ngham-drin i?”