1 Achub fy ngham, O Dduw!Dadlau fy achos yn erbyn pobl anffyddlon.Achub fi rhag y twyllwyr drwg!
2 Ti ydy fy Nuw i – fy nghaer ddiogel i;felly pam wyt ti wedi fy ngwrthod?Pam mae'n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist,am fod fy ngelynion yn fy ngham-drin i?
3 Rho dy olau i mi, gyda dy wirionedd,i'm harwain.Byddan nhw'n dod â fi yn ôlat y mynydd sanctaidd lle rwyt ti'n byw.
4 Bydda i'n cael mynd at allor Duw,y Duw sy'n fy ngwneud i mor hapus.Bydda i'n dy foli di gyda'r delyn,O Dduw, fy Nuw.
5 F'enaid, pam wyt ti'n teimlo mor isel?Pam wyt ti mor anniddig?Rho dy obaith yn Nuw!Bydda i'n moli Duw etoam iddo ymyrryd i'm hachub i!