3 Nid eu cleddyf roddodd y tir iddyn nhw;wnaethon nhw ddim ennill y frwydr yn eu nerth eu hunain.Na! dy nerth di, dy allu di,dy ffafr di tuag atyn nhw wnaeth y cwbl!Roeddet ti o'u plaid nhw.
4 Ti ydy fy mrenin i, O Dduw;yr un sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i bobl Jacob!
5 Ti sy'n ein galluogi ni i yrru'n gelynion i ffwrdd.Gyda dy nerth di dŷn ni'n sathru'r rhai sy'n ein herbyn.
6 Dw i ddim yn dibynnu ar fy mwa;ac nid cleddyf sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i mi.
7 Ti sy'n rhoi'r fuddugoliaeth dros y gelyn.Ti sy'n codi cywilydd ar y rhai sy'n ein casáu ni.
8 Duw ydy'r un i frolio amdano bob amser!Dw i am foli ei enw'n ddi-baid. Saib
9 Ond bellach rwyt ti wedi'n gwrthod ni,a'n cywilyddio ni!Dwyt ti ddim yn mynd allan gyda'n byddin ni.