1 Mae gen i destun cerdd hyfryd yn fy ysbrydoli.Dw i am adrodd fy marddoniaeth i'r brenin;Mae fy nhafod fel ysgrifbin yn llaw awdur profiadol.
2 Ti ydy'r dyn mwya golygus sydd,ac mae dy eiriau mor garedig.Mae'n dangos fod Duw wedi dy fendithio di bob amser.
3 Gwisga dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr!Dangos dy ysblander a dy fawredd.
4 Dangos dy fawredd! Dos allan i ennill buddugoliaeth!Marchoga dros y gwir a thros gyfiawnder.Trwy dy nerth byddi'n cyflawni pethau rhyfeddol!
5 Bydd dy saethau miniogyn trywanu calonnau dy elynion,a bydd pobloedd yn syrthio wrth dy draed.
6 Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth;a byddi di'n teyrnasu mewn ffordd sy'n deg.
7 Ti'n caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni;felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio dia thywallt olew llawenydd arnat ti fwy na neb arall.