1 Mae Duw yn ein cadw ni'n saff ac yn rhoi nerth i ni.Mae e bob amser yna i'n helpu pan mae trafferthion.
2 Felly fydd gynnon ni ddim ofnhyd yn oed petai'r ddaear yn ysgwyd,a'r mynyddoedd yn syrthio i ganol y môr
3 gyda'i donnau gwyllt yn troelli ac yn ewynnu.Mae'r mynyddoedd yn crynu wrth iddo ymchwyddo! Saib
4 Y mae afon! Mae ei chamlesi yn gwneud dinas Duw yn llawen.Ie, y ddinas lle mae'r Duw Goruchaf yn byw.
5 Mae Duw yn ei chanol – fydd hi byth yn syrthio!Bydd Duw yn dod i'w helpu yn y bore bach.
6 Mae gwledydd mewn cyffro, a theyrnasoedd yn syrthio.Pan mae Duw yn taranu mae'r ddaear yn toddi.
7 Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus gyda ni!Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni! Saib