1 Mae'r ARGLWYDD mor fawrac mae'n haeddu ei foli!Yn ninas ein Duwar ei fynydd cysegredig –
2 y copa hardd sy'n gwneud yr holl fyd yn hapus.Mynydd Seion, sydd fel copaon Saffon,ydy dinas y Brenin mawr.
3 Mae Duw yn byw yn ei chaerau,ac mae'n adnabyddus fel caer ddiogel.
4 Edrychwch! Mae brenhinoedd yn ffurfio cynghrair,ac yn dod i ymosod gyda'i gilydd.
5 Ond ar ôl ei gweld roedden nhw'n fud,wedi dychryn am eu bywydau,ac yn dianc mewn panig!