7 Pura fi ag isop, i'm gwneud yn hollol lân;golcha fi, nes bydda i'n lanach nag eira.
8 Gad i mi wybod beth ydy bod yn hapus eto;rwyt ti wedi malu fy esgyrn – gad i mi lawenhau eto.
9 Paid edrych ar fy mhechodau i;dilea'r drygioni i gyd.
10 Crea galon lân yno i, O Dduw;a rhoi ysbryd penderfynol i mi unwaith eto.
11 Paid taflu fi i ffwrdd oddi wrthot ti,na chymryd dy Ysbryd Glân oddi arna i.
12 Gad i mi brofi'r wefr eto o gael fy achub gen ti;a gwna fi'n awyddus i fod yn ufudd i ti.
13 Wedyn bydda i'n dysgu'r rhai sy'n gwrthryfela i dy ddilyn di,a bydd pechaduriaid yn troi atat ti.