1 O Dduw, tyrd ac achub fi!Amddiffyn fi gyda dy holl nerth.
2 O Dduw, gwrando ar fy ngweddi!Clyw beth dw i'n ddweud.
3 Mae pobl estron wedi troi yn fy erbyn i.Mae dynion creulon am fy lladd i.Does dim bwys ganddyn nhw am Dduw. Saib
4 Ond Duw ydy'r un sy'n fy helpu i.Yr ARGLWYDD sy'n fy nghadw i'n fyw.