15 Gad i'r gelynion yn sydyn gael eu taro'n farw!Gad i'r bedd eu llyncu nhw'n fyw!Does dim ond drygioni ble bynnag maen nhw!
16 Ond dw i'n mynd i alw ar Dduw,a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub i.
17 Dw i'n dal ati i gwyno a phledio,fore, nos, a chanol dydd.Dw i'n gwybod y bydd e'n gwrando!
18 Bydd e'n dod â fi allan yn saffo ganol yr ymladd,er bod cymaint yn fy erbyn i.
19 Bydd Duw, sy'n teyrnasu o'r dechrau cyntaf,yn gwrando arna i ac yn eu trechu nhw! Saib Maen nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd,a dangos parch tuag at Dduw.
20 Ond am fy ffrind wnaeth droi yn fy erbyn i,torri ei air wnaeth e.
21 Roedd yn seboni gyda'i eiriau,ond ymosod oedd ei fwriad.Roedd ei eiriau yn dyner fel olew,ond cleddyfau noeth oedden nhw go iawn.