1 Achub fi rhag fy ngelynion, O Dduw.Amddiffyn fi rhag y rhai sy'n ymosod arna i.
2 Achub fi rhag y bobl ddrwg yma –y rhai sy'n ceisio fy lladd i.
3 Edrych arnyn nhw'n cuddio.Maen nhw'n barod i ymosod.Mae dynion cas yn disgwyl amdana i,a minnau heb wneud dim bydi'w croesi nhw, O ARGLWYDD.
4 Dw i ddim ar faiond maen nhw'n rhuthro i ymosod arna i.Deffra! Gwna rywbeth i'm helpu!
5 O ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus,ti ydy Duw Israel.Symud! Tyrd i gosbi'r gwledydd!Paid dangos trugaredd at y bradwyr! Saib
6 Maen nhw'n dod allan bob nos, yn udo fel y cŵnsy'n prowla trwy'r ddinas.
7 Mae eu cegau'n glafoerio budreddi,a'u geiriau creulon fel cleddyfau –“Pwy sy'n clywed?” medden nhw.