11 Paid lladd nhw'n syth, neu bydd fy mhobl yn anghofio'r wers.Anfon nhw ar chwâl gyda dy nerth, cyn eu llorio nhw,O ARGLWYDD, ein tarian.
12 Gad iddyn nhw gael eu baglugan eu geiriau pechadurusa'r pethau drwg maen nhw'n ddweud –y balchder, y melltithion a'r celwyddau.
13 Dinistria nhw yn dy lid!Difa nhw'n llwyr!Yna bydd pawb drwy'r byd i gyd yn gwybodfod Duw yn teyrnasu dros bobl Jacob. Saib
14 Maen nhw'n dod allan bob nos, yn udo fel cŵnsy'n prowla trwy'r ddinas;
15 Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn chwilio am fwyd,ac yn udo nes iddyn nhw gael eu bodloni.
16 Ond bydda i'n canu am dy rym di,ac yn gweiddi'n llawen bob bore am dy fod mor ffyddlon!Rwyt ti'n graig saff i mi,ac yn lle i mi guddio pan dw i mewn trafferthion.
17 Ti ydy fy nerth i, a dw i am ganu mawl i ti!O Dduw, rwyt fel craig ddiogel i mi – y Duw ffyddlon.