5 O ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus,ti ydy Duw Israel.Symud! Tyrd i gosbi'r gwledydd!Paid dangos trugaredd at y bradwyr! Saib
6 Maen nhw'n dod allan bob nos, yn udo fel y cŵnsy'n prowla trwy'r ddinas.
7 Mae eu cegau'n glafoerio budreddi,a'u geiriau creulon fel cleddyfau –“Pwy sy'n clywed?” medden nhw.
8 Ond rwyt ti, ARGLWYDD, yn chwerthin ar eu pennau.Byddi di'n gwawdio'r cenhedloedd.
9 Ti ydy fy nerth i. Dw i'n disgwyl amdanat ti.Rwyt ti, O Dduw, fel craig ddiogel i mi.
10 Ti ydy'r Duw ffyddlon fydd yn fy helpu;byddi'n gadael i mi orfoleddu dros fy ngelynion.
11 Paid lladd nhw'n syth, neu bydd fy mhobl yn anghofio'r wers.Anfon nhw ar chwâl gyda dy nerth, cyn eu llorio nhw,O ARGLWYDD, ein tarian.