9 Ti ydy fy nerth i. Dw i'n disgwyl amdanat ti.Rwyt ti, O Dduw, fel craig ddiogel i mi.
10 Ti ydy'r Duw ffyddlon fydd yn fy helpu;byddi'n gadael i mi orfoleddu dros fy ngelynion.
11 Paid lladd nhw'n syth, neu bydd fy mhobl yn anghofio'r wers.Anfon nhw ar chwâl gyda dy nerth, cyn eu llorio nhw,O ARGLWYDD, ein tarian.
12 Gad iddyn nhw gael eu baglugan eu geiriau pechadurusa'r pethau drwg maen nhw'n ddweud –y balchder, y melltithion a'r celwyddau.
13 Dinistria nhw yn dy lid!Difa nhw'n llwyr!Yna bydd pawb drwy'r byd i gyd yn gwybodfod Duw yn teyrnasu dros bobl Jacob. Saib
14 Maen nhw'n dod allan bob nos, yn udo fel cŵnsy'n prowla trwy'r ddinas;
15 Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn chwilio am fwyd,ac yn udo nes iddyn nhw gael eu bodloni.