1 O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a'm cosbi i,paid dweud y drefn yn dy wylltineb.
2 Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD, achos dw i mor wan.Iachâ fi, ARGLWYDD, dw i'n crynu at yr asgwrn.
3 Dw i wedi dychryn am fy mywyd,ac rwyt ti, ARGLWYDD …– O, am faint mwy?
4 ARGLWYDD, tyrd! Achub fi!Dangos mor ffyddlon wyt ti. Gollwng fi'n rhydd!
5 Dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy gofio di.Pwy sy'n dy foli di yn ei fedd?
6 Dw i wedi blino tuchan.Mae fy ngwely'n wlyb gan ddagrau bob nos;mae dagrau wedi socian lle dw i'n gorwedd.