5 Dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy gofio di.Pwy sy'n dy foli di yn ei fedd?
6 Dw i wedi blino tuchan.Mae fy ngwely'n wlyb gan ddagrau bob nos;mae dagrau wedi socian lle dw i'n gorwedd.
7 Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder,dw i wedi ymlâdd o achos fy holl elynion.
8 Ewch i ffwrdd, chi sy'n gwneud drwg!Mae'r ARGLWYDD wedi fy nghlywed i'n crïo.
9 Mae wedi fy nghlywed i'n pledio am help.Bydd yr ARGLWYDD yn ateb fy ngweddi.
10 Bydd fy holl elynion yn cael eu siomi a'u dychryn.Byddan nhw'n troi yn ôl yn sydyn, wedi siomi.