1 Gwranda arna i, O Dduw, wrth i mi swnian.Amddiffyn fi rhag y gelynion sy'n ymosod.
2 Cuddia fi oddi wrth y mob o ddynion drwg;y gang sydd ddim ond am godi twrw.
3 Maen nhw'n hogi eu tafodau fel cleddyfau,ac yn anelu eu geiriau creulon fel saethau.
4 Maen nhw'n cuddio er mwyn saethu'r dieuog –ei saethu'n ddi-rybudd. Dŷn nhw'n ofni dim.
5 Maen nhw'n annog ei gilydd i wneud drwg,ac yn siarad am osod trapiau,gan feddwl, “Does neb yn ein gweld.”