3 Maen nhw'n hogi eu tafodau fel cleddyfau,ac yn anelu eu geiriau creulon fel saethau.
4 Maen nhw'n cuddio er mwyn saethu'r dieuog –ei saethu'n ddi-rybudd. Dŷn nhw'n ofni dim.
5 Maen nhw'n annog ei gilydd i wneud drwg,ac yn siarad am osod trapiau,gan feddwl, “Does neb yn ein gweld.”
6 Maen nhw'n cynllwynio gyda'i gilydd,“Y cynllun perffaith!” medden nhw.(Mae'r galon a'r meddwl dynol mor ddwfn!)
7 Ond bydd Duw yn eu taro nhw gyda'i saeth e;yn sydyn byddan nhw wedi syrthio.
8 Bydd eu geiriau yn arwain at eu cwymp,a bydd pawb fydd yn eu gweld yn ysgwyd eu pennau'n syn.
9 Bydd pawb yn sefyll yn syfrdan!Byddan nhw'n siarad am beth wnaeth Duw,ac yn dechrau deall sut mae e'n gweithredu.