1 Gwaeddwch yn uchel i Dduw,holl bobl y byd!
2 Canwch gân i ddweud mor wych ydy e,a'i foli'n hyfryd.
3 Dwedwch wrth Dduw,“Mae dy weithredoedd di mor syfrdanol!Am dy fod ti mor rymus mae dy elynion yn crynu o dy flaen.
4 Mae'r byd i gyd yn dy addoli,ac yn canu mawl i ti!Maen nhw'n dy foli di ar gân!” Saib
5 Dewch i weld beth wnaeth Duw.Mae'r hyn wna ar ran pobl yn syfrdanol.
6 Trodd y môr yn dir sych,a dyma nhw'n cerdded drwy'r afon!Gadewch i ni ddathlu'r peth!
7 Mae e'n dal i deyrnasu yn ei nerth,ac mae'n cadw ei lygaid ar y cenhedloedd;felly peidiwch gwrthryfela a chodi yn ei erbyn. Saib