1 Achub fi, O Dduw,mae'r dŵr i fyny at fy ngwddf.
2 Dw i'n suddo mewn cors ddofn,a does dim byd i mi sefyll arno.Dw i mewn dyfroedd dyfnion,ac yn cael fy ysgubo i ffwrdd gan y llifogydd.
3 Dw i wedi blino gweiddi am help;mae fy ngwddf yn sych;mae fy llygaid yn cauar ôl bod yn disgwyl yn obeithiol am Dduw.
4 Mae mwy o bobl yn fy nghasáu i,nag sydd o flew ar fy mhen.Mae cymaint o bobl gelwyddog yn fy erbyn i,ac eisiau fy nistrywio i.Sut alla i roi yn ôl rywbeth dw i heb ei ddwyn?
5 O Dduw, rwyt ti'n gwybod gymaint o ffŵl ydw i.Dydy'r pethau dw i'n euog o'u gwneudddim wedi eu cuddio oddi wrthot ti.
6 Paid gadael i'r rhai sy'n dy drystio di fod â chywilydd ohono i,Feistr, ARGLWYDD holl-bwerus.Paid gadael i'r rhai sy'n dy ddilyn di gael eu bychanu,O Dduw Israel.