6 Côd, ARGLWYDD! Dangos dy fod ti'n ddig,a sefyll yn erbyn ymosodiadau ffyrnig y gelyn!Symud! Tyrd i ymladd ar fy rhan i,a dangos sut rwyt ti'n mynd i'w barnu nhw!
7 Mae'r bobloedd wedi ymgasglu o dy gwmpas;eistedd di ar dy orsedd uwch eu pennau!
8 Mae'r ARGLWYDD yn barnu'r cenhedloedd!Achub fy ngham, O ARGLWYDD,achos dw i wedi gwneud beth sy'n iawn. Dw i ddim ar fai.
9 O Dduw cyfiawn, yr un sy'n treiddio'r meddwl a'r gydwybod,stopia'r holl ddrygioni mae pobl yn ei wneud.Ond gwna'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn gadarn.
10 Mae'r Duw mawr fel tarian i mi;mae'n achub yr un sy'n byw'n iawn.
11 Mae Duw yn farnwr cyfiawn,ond mae'n dangos bob dydd ei fod wedi digio
12 wrth y rhai sydd ddim yn troi cefn ar bechod.Mae'n rhoi min ar ei gleddyf,yn plygu ei fwa ac yn anelu.