11 “Na, fydd Duw ddim yn gwybod!” medden nhw.“Ydy'r Goruchaf yn gwybod unrhyw beth?”
12 Edrychwch! Dyna sut rai ydy pobl ddrwg!Yn malio dim, ac yn casglu cyfoeth.
13 Mae'n rhaid fy mod i wedi cadw fy nghalon yn lân i ddim byd!Wedi bod mor ddiniwed wrth olchi fy nwylo!
14 Dw i wedi cael fy mhlagio'n ddi-baid,ac wedi dioddef rhyw gosb newydd bob bore.
15 Petawn i wedi siarad yn agored fel hynbyddwn i wedi bradychu dy bobl di.
16 Roeddwn i'n ceisio deall y peth,a doedd e'n gwneud dim sens,
17 nes i mi fynd i mewn i deml Dduwa sylweddoli beth oedd tynged y rhai drwg!