13 Mae'n rhaid fy mod i wedi cadw fy nghalon yn lân i ddim byd!Wedi bod mor ddiniwed wrth olchi fy nwylo!
14 Dw i wedi cael fy mhlagio'n ddi-baid,ac wedi dioddef rhyw gosb newydd bob bore.
15 Petawn i wedi siarad yn agored fel hynbyddwn i wedi bradychu dy bobl di.
16 Roeddwn i'n ceisio deall y peth,a doedd e'n gwneud dim sens,
17 nes i mi fynd i mewn i deml Dduwa sylweddoli beth oedd tynged y rhai drwg!
18 Byddi'n eu gosod nhw mewn lleoedd llithrig;ac yn gwneud iddyn nhw syrthio i ddinistr.
19 Byddan nhw'n cael eu dinistrio mewn chwinciad!Byddan nhw'n cael eu hysgubo i ffwrdd gan ofn.