16 Roeddwn i'n ceisio deall y peth,a doedd e'n gwneud dim sens,
17 nes i mi fynd i mewn i deml Dduwa sylweddoli beth oedd tynged y rhai drwg!
18 Byddi'n eu gosod nhw mewn lleoedd llithrig;ac yn gwneud iddyn nhw syrthio i ddinistr.
19 Byddan nhw'n cael eu dinistrio mewn chwinciad!Byddan nhw'n cael eu hysgubo i ffwrdd gan ofn.
20 Fel breuddwyd ar ôl i rywun ddeffro,byddi di'n deffro, O ARGLWYDD,a fyddan nhw'n ddim byd ond atgof.
21 Dw i wedi bod yn chwerw fel finegr,a gadael i'r cwbl gorddi tu mewn i mi.
22 Dw i wedi bod mor dwp ac afresymol.Dw i wedi ymddwyn fel anifail gwyllt o dy flaen di.