19 Byddan nhw'n cael eu dinistrio mewn chwinciad!Byddan nhw'n cael eu hysgubo i ffwrdd gan ofn.
20 Fel breuddwyd ar ôl i rywun ddeffro,byddi di'n deffro, O ARGLWYDD,a fyddan nhw'n ddim byd ond atgof.
21 Dw i wedi bod yn chwerw fel finegr,a gadael i'r cwbl gorddi tu mewn i mi.
22 Dw i wedi bod mor dwp ac afresymol.Dw i wedi ymddwyn fel anifail gwyllt o dy flaen di.
23 Ac eto, dw i'n dal gyda ti;rwyt ti'n gafael yn dynn ynof fi.
24 Ti sy'n dangos y ffordd ymlaen i mi,a byddi'n fy nerbyn ac yn fy anrhydeddu.
25 Pwy sydd gen i yn y nefoedd ond ti?A does gen i eisiau neb ond ti ar y ddaear chwaith.