2 Ond bu bron i mi faglu;roeddwn i bron iawn a llithro.
3 Ro'n i'n genfigennus o'r rhai balch,wrth weld pobl ddrwg yn llwyddo.
4 Does dim byd yn eu rhwymo nhw;maen nhw'n iach yn gorfforol;
5 ddim yn cael eu hunain i helyntion fel pobl eraill;a ddim yn dioddef fel y gweddill ohonon ni.
6 Maen nhw'n gwisgo balchder fel cadwyn aur am eu gwddf,a chreulondeb ydy'r wisg amdanyn nhw.
7 Maen nhw'n llond eu croen,ac mor llawn ohonyn nhw eu hunain hefyd!
8 Maen nhw'n gwawdio ac yn siarad yn faleisus,ac mor hunanhyderus wrth fygwth gormesu.