5 ddim yn cael eu hunain i helyntion fel pobl eraill;a ddim yn dioddef fel y gweddill ohonon ni.
6 Maen nhw'n gwisgo balchder fel cadwyn aur am eu gwddf,a chreulondeb ydy'r wisg amdanyn nhw.
7 Maen nhw'n llond eu croen,ac mor llawn ohonyn nhw eu hunain hefyd!
8 Maen nhw'n gwawdio ac yn siarad yn faleisus,ac mor hunanhyderus wrth fygwth gormesu.
9 Maen nhw'n siarad fel petai piau nhw'r nefoedd,ac yn strytian yn falch wrth drin y ddaear.
10 Ac mae pobl Dduw yn dilyn eu hesiampl,ac yn llyncu eu llwyddiant fel dŵr.
11 “Na, fydd Duw ddim yn gwybod!” medden nhw.“Ydy'r Goruchaf yn gwybod unrhyw beth?”