5 Rwyt wedi ei wneud ond ychydig is na'r bodau nefol,ac wedi ei goroni ag ysblander a mawredd!
6 Rwyt wedi ei wneud yn feistr ar waith dy ddwylo,a gosod popeth dan ei awdurdod –
7 defaid ac ychen o bob math,a hyd yn oed yr anifeiliaid gwylltion;
8 yr adar sy'n hedfan, y pysgod sy'n y môr,a phopeth arall sy'n teithio ar gerrynt y moroedd.
9 O ARGLWYDD, ein brenin,mae dy enw di mor fawr drwy'r byd i gyd!