1 Mae Duw'n sefyll i fyny yn y cyngor dwyfol;ac yn cyhoeddi dedfryd yng nghanol y ‛duwiau‛.
2 “Am faint ydych chi'n mynd i farnu'n anghyfiawna dangos ffafr at y rhai sy'n gwneud drwg?” Saib
3 “Dylech roi dedfryd o blaid y gwan a'r amddifad!Sefyll dros hawliau y rhai anghenus sy'n cael eu gorthrymu!
4 Cadw'r rhai sy'n wan a di-rym yn saffa'u hachub nhw o afael pobl ddrwg!”
5 Ond dŷn nhw'n deall dim.Maen nhw'n crwydro yn y tywyllwch,tra mae sylfeini'r ddaear yn ysgwyd!