7 Byddan nhw'n symud ymlaen o nerth i nerth,a byddan nhw i gyd yn ymddangos o flaen Duw yn Seion.
8 O ARGLWYDD Dduw holl-bwerus,gwrando ar fy ngweddi!Clyw fi, O Dduw Jacob. Saib
9 Edrych ar y brenin, ein tarian ni, O Dduw!Edrych yn ffafriol ar yr un wnest ti ei eneinio.
10 Mae un diwrnod yn dy deml yn well na miloedd rhywle arall!Byddai'n well gen i aros ar drothwy tŷ fy Nuwna mynd i loetran yng nghartrefi pobl ddrwg.
11 Mae'r ARGLWYDD Dduw yn haul ac yn darian i'n hamddiffyn ni!Mae'r ARGLWYDD yn garedig ac yn rhannu ei ysblander gyda ni.Mae e'n rhoi popeth da i'r rhai sy'n byw yn onest.
12 O ARGLWYDD holl-bwerus,y fath fendith sydd i rywun sy'n dy drystio di!