1 Dw i'n mynd i ganu am byth am gariad yr ARGLWYDD;dweud am dy ffyddlondeb wrth un genhedlaeth ar ôl y llall.
2 Cyhoeddi fod dy haelioni yn ddiddiwedd;dy ffyddlondeb mor sicr â'r nefoedd.
3 Dwedaist,“Dw i wedi gwneud ymrwymiad i'r un dw i wedi ei ddewis,ac wedi tyngu llw wrth Dafydd fy ngwas:
4 ‘Bydda i'n gwneud dy ddisgynyddion yn sefydlog am bythac yn cynnal dy orsedd ar hyd y cenedlaethau.’” Saib
5 Mae'r pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneudyn cael eu canmol yn y nefoedd, O ARGLWYDD,a dy ffyddlondeb hefyd gan yr angylion sanctaidd!