17 Ti sy'n rhoi nerth ac ysblander iddyn nhw.Dy ffafr di sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni!
18 Ti, ARGLWYDD, ydy'n tarian.Ti ydy'n brenin ni, Un Sanctaidd Israel.
19 Un tro, dyma ti'n siaradgyda dy ddilynwyr ffyddlon mewn gweledigaeth.“Dw i wedi rhoi nerth i ryfelwr,” meddet ti;“dw i wedi codi bachgen ifanc o blith y bobl.
20 Dw i wedi dod o hyd i Dafydd, fy ngwas;a'i eneinio'n frenin gyda'r olew sanctaidd.
21 Bydda i yn ei gynnal e,ac yn rhoi nerth iddo.
22 Fydd dim un o'i elynion yn ei gael i dalu teyrnged,a fydd dim un gormeswr yn ei ddarostwng.
23 Bydda i'n sathru ei elynion o'i flaen;ac yn taro i lawr y rhai sy'n ei gasáu.