21 Bydda i yn ei gynnal e,ac yn rhoi nerth iddo.
22 Fydd dim un o'i elynion yn ei gael i dalu teyrnged,a fydd dim un gormeswr yn ei ddarostwng.
23 Bydda i'n sathru ei elynion o'i flaen;ac yn taro i lawr y rhai sy'n ei gasáu.
24 Bydd e'n cael profi fy ffyddlondeb a'm cariad;a bydda i'n ei anfon i ennill buddugoliaeth.
25 Bydda i'n gosod ei law chwith dros y môr,a'i law dde ar afonydd Ewffrates.
26 Bydd e'n dweud wrtho i,‘Ti ydy fy Nhad i, fy Nuw, a'r graig sy'n fy achub i.’
27 Bydda i'n ei wneud e yn fab hynaf i mi,yn uwch na holl frenhinoedd y byd.