25 Bydda i'n gosod ei law chwith dros y môr,a'i law dde ar afonydd Ewffrates.
26 Bydd e'n dweud wrtho i,‘Ti ydy fy Nhad i, fy Nuw, a'r graig sy'n fy achub i.’
27 Bydda i'n ei wneud e yn fab hynaf i mi,yn uwch na holl frenhinoedd y byd.
28 Bydda i'n aros yn ffyddlon iddo am byth;mae fy ymrwymiad iddo yn hollol ddiogel.
29 Bydd ei ddisgynyddion yn ei olynu am byth,a'i orsedd yn para mor hir â'r nefoedd.
30 Os bydd ei feibion yn troi cefn ar fy nysgeidiaethac yn gwrthod gwneud beth dw i'n ddweud;
31 os byddan nhw'n torri fy rheolau i,a ddim yn cadw fy ngorchmynion i,