30 Os bydd ei feibion yn troi cefn ar fy nysgeidiaethac yn gwrthod gwneud beth dw i'n ddweud;
31 os byddan nhw'n torri fy rheolau i,a ddim yn cadw fy ngorchmynion i,
32 bydda i'n eu cosbi nhw gyda gwialen am eu gwrthryfel;gyda plâu am iddyn nhw fynd ar gyfeiliorn.
33 Ond fydda i ddim yn stopio ei garu e,a fydda i ddim yn anffyddlon iddo.
34 Fydda i ddim yn torri'r ymrwymiad wnes i;bydda i'n gwneud beth wnes i addo iddo.
35 Dw i, y Duw sanctaidd, wedi tyngu llw,na fydda i byth yn twyllo Dafydd.
36 Bydd ei linach yn aros am byth,a'i orsedd yn para tra mae haul o'm blaen i.