32 bydda i'n eu cosbi nhw gyda gwialen am eu gwrthryfel;gyda plâu am iddyn nhw fynd ar gyfeiliorn.
33 Ond fydda i ddim yn stopio ei garu e,a fydda i ddim yn anffyddlon iddo.
34 Fydda i ddim yn torri'r ymrwymiad wnes i;bydda i'n gwneud beth wnes i addo iddo.
35 Dw i, y Duw sanctaidd, wedi tyngu llw,na fydda i byth yn twyllo Dafydd.
36 Bydd ei linach yn aros am byth,a'i orsedd yn para tra mae haul o'm blaen i.
37 Mae wedi ei sefydlu am byth, fel mae'r lleuadyn dyst ffyddlon i mi yn yr awyr.” Saib
38 Ond rwyt wedi ei wrthod, a'i wthio i'r naill ochr!Rwyt wedi gwylltio gyda'r brenin, dy eneiniog.