41 Mae pawb sy'n pasio heibio yn dwyn oddi arno.Mae e'n destun sbort i'w gymdogion!
42 Ti wedi gadael i'r rhai sy'n ei gasáu ei goncro,a rhoi achos i'w elynion i gyd ddathlu.
43 Rwyt wedi troi min ei gleddyf arno fe'i hun,a heb ei helpu yn y frwydr.
44 Rwyt wedi dod â'i deyrnasiad gwych i ben,ac wedi bwrw ei orsedd i lawr.
45 Rwyt wedi ei droi'n hen ddyn cyn pryd;ac wedi ei orchuddio â chywilydd. Saib
46 Am faint mwy, O ARGLWYDD?Wyt ti wedi troi dy gefn arnon ni am byth?Fydd dy lid di'n llosgi fel tân am byth?
47 Cofia mor fyr ydy fy mywyd!Wyt ti wedi creu'r ddynoliaeth i ddim byd?