43 Rwyt wedi troi min ei gleddyf arno fe'i hun,a heb ei helpu yn y frwydr.
44 Rwyt wedi dod â'i deyrnasiad gwych i ben,ac wedi bwrw ei orsedd i lawr.
45 Rwyt wedi ei droi'n hen ddyn cyn pryd;ac wedi ei orchuddio â chywilydd. Saib
46 Am faint mwy, O ARGLWYDD?Wyt ti wedi troi dy gefn arnon ni am byth?Fydd dy lid di'n llosgi fel tân am byth?
47 Cofia mor fyr ydy fy mywyd!Wyt ti wedi creu'r ddynoliaeth i ddim byd?
48 Does neb byw yn gallu osgoi marw.Pwy sy'n gallu achub ei hun o afael y bedd? Saib
49 O ARGLWYDD, ble mae'r cariad hwnnwwnest ti ei addo'n bendant i Dafydd?