9 Ti sy'n rheoli'r môr mawr:pan mae ei donnau'n codi, rwyt ti'n eu tawelu.
10 Ti sathrodd yr anghenfil Rahab; roedd fel corff marw!Ti chwalodd dy elynion gyda dy fraich gref.
11 Ti sydd piau'r nefoedd, a'r ddaear hefyd;ti wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo.
12 Ti greodd y gogledd a'r de;mae mynyddoedd Tabor a Hermon yn canu'n llawen i ti.
13 Mae dy fraich di mor bwerus,ac mae dy law di mor gref.Mae dy law dde wedi ei chodi'n fuddugoliaethus.
14 Tegwch a chyfiawnder ydy sylfaen dy orsedd.Cariad ffyddlon a gwirionedd sy'n dy nodweddu di.
15 Mae'r rhai sy'n dy addoli di'n frwd wedi eu bendithio'n fawr!O ARGLWYDD, nhw sy'n profi dy ffafr di.