1 Addolaf di, ARGLWYDD, o waelod calon;a sôn am yr holl bethau rhyfeddol wnest ti.
2 Byddaf yn llawen, a gorfoleddaf ynot.Canaf emyn o fawl i dy enw, y Goruchaf.
3 Pan mae fy ngelynion yn ceisio dianc,maen nhw'n baglu ac yn cael eu dinistrio o dy flaen di,
4 am dy fod ti'n camu i mewn a gweithredu ar fy rhan i.Ti'n eistedd ar yr orsedd ac yn dyfarnu'n gyfiawn.
5 Ti sy'n ceryddu'r cenhedloedd,yn dinistrio'r rhai drwg,ac yn cael gwared â nhw am byth bythoedd!
6 Mae hi ar ben ar y gelyn!Mae eu trefi'n adfeilion,a fydd neb yn cofio ble roedden nhw.
7 Ond mae'r ARGLWYDD yn teyrnasu am byth!Mae ar ei orsedd, yn barod i farnu.