13 Dangos drugaredd ata i, O ARGLWYDD;edrych fel mae'r rhai sy'n fy nghasáu yn gwneud i mi ddioddef.Dim ond ti all fy nghadw rhag mynd trwy giatiau marwolaeth.
14 Wedyn bydda i'n dy foli dio fewn i giatiau Seion hardd.Bydda i'n dathlu am dy fod wedi fy achub i!
15 Mae'r cenhedloedd wedi llithro i'r twll wnaethon nhw ei gloddio;a'u traed wedi mynd yn sownd yn y rhwyd wnaethon nhw ei chuddio.
16 Mae'r ARGLWYDD wedi dangos sut un ydy e!Mae e'n gwneud beth sy'n iawn.Mae'r rhai drwg wedi eu dal gan eu dyfais eu hunain. (Yn ddwys:) Saib
17 Bydd y rhai drwg yn mynd i fyd y meirw.Dyna dynged y cenhedloedd sy'n diystyru Duw!
18 Ond fydd y rhai mewn angen ddim yn cael eu hanghofio am byth;fydd gobaith ddim yn diflannu i'r rhai sy'n cael eu cam-drin.
19 Cod, O ARGLWYDD!Paid gadael i ddynion meidrol gael eu ffordd!Boed i'r cenhedloedd gael eu barnu gen ti!