16 Mae'r ARGLWYDD wedi dangos sut un ydy e!Mae e'n gwneud beth sy'n iawn.Mae'r rhai drwg wedi eu dal gan eu dyfais eu hunain. (Yn ddwys:) Saib
17 Bydd y rhai drwg yn mynd i fyd y meirw.Dyna dynged y cenhedloedd sy'n diystyru Duw!
18 Ond fydd y rhai mewn angen ddim yn cael eu hanghofio am byth;fydd gobaith ddim yn diflannu i'r rhai sy'n cael eu cam-drin.
19 Cod, O ARGLWYDD!Paid gadael i ddynion meidrol gael eu ffordd!Boed i'r cenhedloedd gael eu barnu gen ti!
20 Dychryn nhw, O ARGLWYDD!gad iddyn nhw wybod mai dim ond dynol ydyn nhw! Saib