6 Mae hi ar ben ar y gelyn!Mae eu trefi'n adfeilion,a fydd neb yn cofio ble roedden nhw.
7 Ond mae'r ARGLWYDD yn teyrnasu am byth!Mae ar ei orsedd, yn barod i farnu.
8 Bydd yn barnu'n deg,ac yn llywodraethu'r gwledydd yn gyfiawn.
9 Mae'r ARGLWYDD yn hafan ddiogeli'r rhai sy'n cael eu gorthrymu –yn hafan pan maen nhw mewn trafferthion.
10 Mae'r rhai sy'n dy nabod di yn dy drystio di.Dwyt ti ddim yn troi cefnar y rhai sy'n dy geisio di, O ARGLWYDD.
11 Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n teyrnasu yn Seion!Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud!
12 Dydy e ddim yn diystyru cri y rhai sy'n dioddef;mae'r un sy'n dial ar y llofruddion yn gofalu amdanyn nhw.