8 Bydd yn barnu'n deg,ac yn llywodraethu'r gwledydd yn gyfiawn.
9 Mae'r ARGLWYDD yn hafan ddiogeli'r rhai sy'n cael eu gorthrymu –yn hafan pan maen nhw mewn trafferthion.
10 Mae'r rhai sy'n dy nabod di yn dy drystio di.Dwyt ti ddim yn troi cefnar y rhai sy'n dy geisio di, O ARGLWYDD.
11 Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n teyrnasu yn Seion!Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud!
12 Dydy e ddim yn diystyru cri y rhai sy'n dioddef;mae'r un sy'n dial ar y llofruddion yn gofalu amdanyn nhw.
13 Dangos drugaredd ata i, O ARGLWYDD;edrych fel mae'r rhai sy'n fy nghasáu yn gwneud i mi ddioddef.Dim ond ti all fy nghadw rhag mynd trwy giatiau marwolaeth.
14 Wedyn bydda i'n dy foli dio fewn i giatiau Seion hardd.Bydda i'n dathlu am dy fod wedi fy achub i!