1 Bydd y sawl mae'r Duw Goruchaf yn ei amddiffynyn aros yn saff dan gysgod yr Hollalluog.
2 Dywedais, “ARGLWYDD, rwyt ti'n gaer ddiogel,yn lle hollol saff i mi fynd.Ti ydy fy Nuw i, yr un dw i'n ei drystio.”
3 Bydd Duw yn dy achub di o drap yr heliwr,a rhag y pla marwol.
4 Bydd e'n rhoi ei adain drosot ti,a byddi'n saff o dan blu ei adenydd.Mae'r ffaith fod Duw yn dweud y gwiryn darian sy'n dy amddiffyn di.
5 Paid bod ag ofn dim sy'n dy ddychryn yn y nos,na'r saeth sy'n hedfan yn y dydd;
6 yr haint sy'n llechu yn y tywyllwch,na'r dinistr sy'n taro'n sydyn ganol dydd.
7 Gall mil o ddynion syrthio ar dy law chwith,a deg mil ar y dde,ond fyddi di ddim yn cael dy gyffwrdd.