5 Paid bod ag ofn dim sy'n dy ddychryn yn y nos,na'r saeth sy'n hedfan yn y dydd;
6 yr haint sy'n llechu yn y tywyllwch,na'r dinistr sy'n taro'n sydyn ganol dydd.
7 Gall mil o ddynion syrthio ar dy law chwith,a deg mil ar y dde,ond fyddi di ddim yn cael dy gyffwrdd.
8 Byddi'n cael gweld drosot ti dy hun –byddi'n gweld y rhai drwg yn cael eu cosbi.
9 Wyt, rwyt ti'n lle saff i mi guddio. ARGLWYDD!Gad i'r Duw Goruchaf fod yn hafan ddiogel i ti,
10 a fyddi di ddim yn cael unrhyw niwed.Fydd dim haint yn dod yn agos i dy gartre di.
11 Achos bydd e'n gorchymyn i'w angyliondy amddiffyn di ble bynnag rwyt ti'n mynd.