1 Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD.Y ddaear gyfan, canwch i'r ARGLWYDD!
2 Canwch i'r ARGLWYDD! Canmolwch ei enw,a dweud bob dydd sut mae e'n achub.
3 Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e;wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
4 Mae'r ARGLWYDD yn Dduw mawr ac yn haeddu ei foli!Mae'n haeddu ei barchu fwy na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd.
5 Eilunod diwerth ydy duwiau'r holl bobloedd,ond yr ARGLWYDD wnaeth greu y nefoedd!
6 Mae ei ysblander a'i urddas yn amlwg;mae ei gryfder a'i harddwch yn ei deml.